Gôl
Gêmau

Cysylltu Gôl!
E-bost: post@golcymru.org
Donation Online button
Tîm Cefnogwyr Cymru Eurofan 2010

Ym mis Mehefin 2010 gwahoddwyd Tim Cefnogwyr Cymru unwaith yn rhagor i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Eurofan yn Lviv, yr Iwcrain. Ar y ffordd i Lviv galwodd y tîm ar hen ffrindiau wrth iddyn nhw gyflwyno crysau ar ran Ymddiriedolaeth yr FAW a Chlwb Peldroed Cosmos Caerdydd i gartref plant Panstwowy Dom Dziecka Rhif 1 ar 38 str Krupnica, 31-123 Kraków, yr oedd Gôl! wedi ymweld ag ef nol yn 2005. Diolch i Katarzyna Klosowska, Izabella Cwetsch a Kazimierz Karasinski am gynorthwyo i drefnu'r ymweliad.

Llun: Ymddiriedolwr Gól! Tim Hartley yn cyflwyno'r dillad i swyddogion y cartref yn Krakow

Ymddiriedolwr Gól! Tim Hartley yn cyflwyno'r dillad i swyddogion y cartref yn Krakow.

Wedi cyrraedd Lviv fel enillodd tîm Cymru eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn y gystadleuaeth gan guro'r Almaen 2 - 1 cyn colli yn y rownd go-gyn derfynol i'r Iwcrain. Ond fe lwyddodd tîm Cymru unwaith eto i wneud mwy o ffrindiau gyda'r timoedd eraill a'r cyfryngau yn yr Iwcrain wrth iddynt arwain y cefnogwyr eraill gyda'r rhoddion i Wasanaeth Cymorth Malta ar gyfer plant anghenus yn ardal Lviv.

Gellir gweld gwaith Gwasanaeth Cymorth Malta ar eu gwefan.

Llun: Ymddiriedolwr Gól! Neil Dymock yn cyflwyno un o'r gwisgoedd a roddwyd gan yr FAW i un o'r plant

Ymddiriedolwr Gól! Neil Dymock yn cyflwyno un o'r gwisgoedd a roddwyd gan yr FAW i un o'r plant

Diolch unwaith eto i Slavik ac Oleg o FC Karpaty Lviv am drefnu Eurofan ac am gefnogi ymdrechion Cymru i gynorthwyo plant Lviv. Hefyd Llywydd Mygedol FC 'Karpaty' Mr Dyminskyy am noddi'r gystadleuaeth.

Llun: Chwaraewyr Cymru yn rhannu'r cit i blant Lviv

Chwaraewyr Cymru yn rhannu'r cit i blant Lviv

Dewislen
Hafan
Hanes
Digwyddiadau
Codi Arian
Apeliadau
Erthyglau
World In Motion
The Dragon Has Landed
Tîm Cefnogwyr Cymru
Noddwyr
Baku neu Be!
Nwyddau
Clybiau Pêl-droed Cymru
Achosion da Cymreig
Dyfyniadau
Er Cof
Dolenni i wefannau eraill
English