Minithon Gôl! & CPD Tref Merthyr
Bydd Gôl! yn cydweithio gyda chlwb peldroed Tref Merthyr ar ddydd Sul 24 Hydref pan y cynhelir minithon er mwyn codi arian tuag at Gôl! a Thref Merthyr.
Byddwn yn cynnal ras hwyl/taith gerdded/cropian o Ganolfan Hamdden Rhydycar i Abercanaid (ac yn ôl) pellter o ryw 4km. Er mwyn cymryd rhan ebostiwch post@golcymru.org.
Mae rheolwr Tref Merthyr wedi rhoi ei gefnogaeth lawn i'r minithon, gan ddweud, "Mae'r chwraewyr yn edrych ymlaen at y minithon ac mae llyfr eisoes wedi agor ar bwy fydd yr un mwyaf araf yn ein sgwad. Rwyf yn cael strapping arbennig wedi ei baratoi i mi yn dilyn anaf er mwyn sicrhau fy mod yn gallu cystadlu a byddaf yn ail gydio yn fy ymarfer maes o law. Mae'n rhyfedd clywed son am Ferthyr ochr yn ochr â Sydney, Boston UDA, Turin a Manceinion ond rydym yn edrych ymlaen at gystadlu yn eu herbyn nhw i gyd fel y 'brawd bach'.
Rwyf wrth fy modd fod y Clwb yn cefnogi Gôl! sydd â record mor dda yn cynrothwyo plant anghenus yma ac oddi cartref. Fel tad fy hun rwy'n deall pwysigrwydd cynnig cymorth i blant er mwyn gwella ansawdd eu bywyd. Ers i'r Clwb ail-ffurfio rydym wedi bod yn awyddus i gefnogi gweithgareddau cymunedol fel y rhain ac rwy'n falch gallu dweud y bydd y garfan gyfan yn cymryd rhan."