Lansiwyd Gôl ym mis Tachwedd 2002 gan grwp o gefnogwyr pêl-droed Cymru oedd am wneud gwahaniaeth i’r gymuned leol yn Baku, Azerbaijan wrth iddynt ddilyn y tîm cenedlaethol. Cafwyd y syniad yn dilyn sgwrs rhwng Dylan Llywellyn, Neil Dymock a Gary Pritchard ar fws i wylio’r tîm dan 21 yn erbyn y Ffindir yn Valkeakoski ddau fis ynghynt.
Yn dilyn ymweliadau a nifer o gartrefi plant yn Baku yn dwyn anrhegion, pêl-droed, citiau, teganau a rhoddion ariannol, daeth ymweliadau o’r fath yn rhan annatod o’r teithiau tramor yma. Yn ogystal ceisiwyd cynorthwyo achosion da tebyg yma yng Nghymru.
O 2002 hyd 2008 bu’r bobl ganlynol yn flaenllaw iawn gyda’r mudiad wrth i bwyllgor llywio gael ei sefydlu: Dylan Llewellyn, Neil Dymock, Gary Pritchard, Duncan Jardine, Tim Hartley, Mark Ainsbury, Maralyn Olsen, Chris Jones, Rob Santwris ac Andy Hurst.
Ym mis Hydref 2008 penderfynwyd cofrestri Gôl! gyda’r Swyddfa Dreth fel elusen swyddogol, gyda Neil Dymock, Duncan Jardine a Tim Hartley yn Ymddiriedolwyr . Ymunodd Andy Hurst yn hwyrach fel Ymddiriedolwr.
Mae croeso i unrhyw gefnogwr ddod yn rhan o Gôl! gan gyfrannu mewn unrhyw ffordd.
Cysylltwch
â ni.
Dyma amcanion Gôl!
* Cynorthwyo pobl ifanc sydd â chysylltiad â Phêl-droed Cymru drwy gynnig cymorth ariannol a threfnu gweithgareddau fydd yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u gallu i gymryd rhan mewn cymdeithas fel unigolion annibynnol, aeddfed a chyfrifol.
* Cynnig cymorth ariannol ynghyd a chymorth ymarferol i helpu trîn a gofalu am bobl ifanc sydd yn dioddef o anhwylder meddyliol neu salwch corfforol o unrhyw ddisgrifiad, neu sydd angen adferiad o achos anhwylderau o’r fath, mewn gwledydd sydd â chysylltiad gyda phêl-droed Cymreig.
* Cynnig cymorth ariannol i bobl ifanc mewn cynni mewn gwledydd sydd â chysylltiad â phêl-droed Cymru drwy gynnig nwyddau neu wasanaethau na fydden nhw yn gallu eu derbyn mewn unrhyw fodd arall.
* Cynnig cymorth ariannol i bobl ifanc anghenus ney sydd yn dioddef ynghyd a’r sawl sydd wedi dioddef argyfyngau naturiol neu arall, drwy gynnig arian neu gymorth priodol arall.
Cofrestrwyd Gôl! yn elusen gan HMRC gyda’r rhif elusen XT14176. Nid yw’n rhaid ar hyn o bryd gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Hoffai Gôl! gydnabod cymorth cefnogwyr pêl-droed Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wrth godi arian at achosion da.