Gôl
Gêmau

Cysylltu Gôl!
E-bost: post@golcymru.org
Donation Online button
William Johnson, Hanner Marathan, Llundain, 2008

Llun: William Johnston tries to keep up with Huw Rolfe, Hanner Marathon, Llundain, 2008 Dydd Sul y 5ed o Hydref oedd hi, ac wedi misoedd o baratoi meddyliol, bwyta'r bwyd cywir, caledi corfforol, chwys ac aberth, ennillodd Tsegay Kebede y Great North Run. Yn y cyfamser safai tri o gefnogwyr eofn ac anturus Cymru ar linnell gychwyn yr hanner marathon 'Run to the Beat' gyntaf. Doedd y bore heb ddechrau'n dda. Roedd y proffwydi tywydd yn iawn, a cyrhaeddodd y gwynt a'r glaw fel oedd y tri ar fin gadael y ty. Be na allodd neb ei ddarogan, fodd bynnag, oedd y byddai Greenwich Tube Station - a wynebai linell ddechrau'r ras, ger y Millennium Dome - ar gau. Felly, ar ôl cerdded dwy filltir o'r orsaf drenau uwch-dir agosaf roedd y tri cystadleuydd dewr bron a nogio erbyn cyrraedd at ddechrau'r ras - oedd, erbyn hynny, yn hwyr yn dechrau.

Paratodd y tri 'athletwr' ar gyfer y ras mewn ffyrdd gwahanol iawn. Aeth Huw Roffe am y llwybr clasurol a digon anwreiddiol o hyfforddi dwys - sesiynnau 11 milltir o amgylch Parc y Rhath yn ychwanegol i'w jogio arferol - a mesur perffaith o garbohydradau yn ei ddeiet. Profwyd ei ewyllys i'r eithaf ar ôl cyrraedd Llundain y noson cyn y ras, fodd bynnag, pan fynnodd Will Johnson fynd a fo allan am y stêc a sglodion mwyaf y gallai gael hyd iddo.

Johnson, o bosib, oedd wedi paratoi leiaf allan o'r tri, gan ei fod wedi treulio'r rhan fwyaf o'r mis blaenorol un ai mewn tafarn neu yn Rwsia, neu mewn tafarn yn Rwsia. Fodd bynnag, ceisiodd wneud i fyny am y diffyg yma pan redodd yn bellach nag y rhedodd o'r blaen yn ei fy wyd - 8 milltir - ddwy noson cyn y ras. Ac ar y bore tyngedfennol roedd o'n dal i ddioddef effeithiau'r ymdrech. Disgynnodd disgwyliadau ymhellach pan sylweddolwyd nad oedd Will erioed wedi rhedeg unrhyw bellter heb ddefnyddio melin traed ac, yn waeth na hynny, doedd ganddo ddim ond pâr o sgidiau astroturf i'w gwisgo.

Cyrhaeddodd Perry Morgan, a redodd ras 10km Reykjavic, yng nghwmni un o'i 'gyfeillion arbennig' enwog oedd, mynnai Perry, wedi bod yn ei helpu i ymgyfarwyddo â'r hinsawdd a pherffeithio cyflwr ei gorff y noson gynt. Roedd 'na bryderon fod llinyn ei âr braidd yn dynn, ond chafwyd dim eglurhad ganddo o sut y dioddefodd yr anaf.

Rhedodd Roffe a Johnson allan gyda'i gilydd, a gwneud yn dda dros y milltiroedd cyntaf, gan lwyddo i basio ychydig o'r straglars yn20go sydyn. Parhaodd y gwaith da hyd at y bumed filltir, pryd y daethpwyd at allt, ac y penderfynodd y ddau roi tân oddi tani er mwyn cynnal eu hamseru da.

Strategaeth wahanol iawn oedd gan Morgan - un oedd yn cael ei ysbrydoliaeth o'r ddameg honno am grwban a sgwarnog. Fodd bynnag, byddai crwban hyd yn oed, wedi cael trafferth peidio curo cyflymdra Morgan yn y chweched filltir, pryd y penderfynodd gael hoe fach i roi mwy o Deep Heat ar y rhannau hynny o'i gorff oedd yn dioddef o or-dyndra. Ond fel y trodd allan, dyma'r trobwynt yn ras Morgan a mi lwyddodd i barhau i redeg ar gyflymdra cyson ar ôl cynhesu digon ar ei 'rannau' poenus!

Pasiodd Roffe a Johnson hanner ffordd, yn cadw at amser o saith munud a hanner i'r filltir. Ond daeth yn amlwg nad oedd& nbsp;diet a hyfforddiant anghyffredin Johnson wedi ei baratoi i redeg dros bellter ar gyflymdra na geisiodd wneud o'r blaen. Roedd crothau ei goesau yn ei chael hi'n ddrwg efo pob cam yn yr astroturfs tennau. Yn annorfod, ymwahanodd y ddau gyfaill wedi'r nawfed filltir wedi i Johnson orfod arafu cryn dipyn. Clywyd ef yn annog ei gyfaill ymlaen efo'r geiriau, 'Do Wales proud, pal!'

Trwy lwc, roedd rhan olaf y cwrs yn fwy gwastad, neu'n rhedeg ar i lawr. Rhoddodd Roffe un ymdrech olaf a llwyddo i gynyddu'i gyflymdra a chroesi'r llinnell yn gyntaf allan o'r tri, mewn amser o 1 awr a 36 munud - 255ed allan o tua 8000 o gystadleuwyr. Johnson oedd y nesaf, wedi llwyddo i gael y nerth i wneud yr ymdrech trwy fynnu cadw ar y blaen i ddau Borat mewn mancinis yr oedd o'n benderfynol o beidio gorfod edrych ar eu pen olau am weddill y ras. Gosododd ei amser o 1 awr a 42 munud ef yn 571ed, sydd yn siwr o fod yn ysbrydoliaeth i'r diog a'r diawydd dros y byd i gyd. Perry Morgan oedd, fel arfer, yr olaf o'r tri, ac yno i'w groesawu ar y lein oedd y ddynes ddirgel, oedd wedi synnu ei weld o'n cynnal=2 0ymdrech gorfforol am 2 awr a 15 munud. Diflannodd yn go sydyn i'w fflat am sesiwn 'cynhesu i lawr' dipyn go lew yn fyrrach na hynny.

Mwynhaodd y tri gymryd rhan yn y ras yn arw, a rhyngthynt, llwyddwyd i gasglu dros £135 i Apêl Gôl. Dylid hefyd nodi fod Owen Williams, Neil Dymock ac Andy Hurst wedi tynnu allan ar y funud olaf, ac mae'r tri wedi gaddo rhoi cyfraniad sylweddol i Gôl, yn ogystal â chymryd rhan yn y ras flwyddyn nesaf!

Dewislen
Hafan
Hanes
Digwyddiadau
Codi Arian
Apeliadau
Erthyglau
World In Motion
The Dragon Has Landed
Tîm Cefnogwyr Cymru
Noddwyr
Baku neu Be!
Nwyddau
Clybiau Pêl-droed Cymru
Achosion da Cymreig
Dyfyniadau
Er Cof
Dolenni i wefannau eraill
English