Uchod: Cyn Gapten Cymru Peter Nicholas a rhai o chwaraewyr a swyddogion Llanelli yng Nghartref Plant Grybo.
Uchod: Gary Lloyd, Rhys Griffiths a Stuart Jones, y tri wedi cynrychioli Cymru ar wahanol lefelau, efo rhai o'r plant yng nghartref Grybo.
Uchod: Lisa Thomas o Lysgenhadaeth Prydain, yn wreiddiol o Gaerdydd, yn cyflwyno crys Ffynnon Taf i un o'r plant.
Mai 2008, Llanelli yn cyfrannu nifer o grysau i Dîm Cefnogwyr Cymru i’w rhoi i Gartref Plant ag Anabledd Meddwl, Cartref 102, yn Lviv yn Yr Wcrain.
Cyflwynodd Neil Dymock grysau Llanelli i blant mewn Cartref Plant yn 19 Stryd Pekarska, Lviv, Yr Wcrain, 79004, ynghyd â llwyth o fferins wedi'u cyfrannu gan Gloria a Carol o Gaffi'r Cochion (Reds Cafe).
Roedd Tîm Cefnogwyr Cymru'n cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Cefnogwyr Ewrop yn Lviv.
|
|
|
|
|
Uchod: y Nadolig yn dod yn gynnar i fachgen yn y cartref yn Lviv, wrth iddo ddod yn berchennog balch crys Llanelli.
|
Uchod: y Cochion yn ‘Rhif Un’ i'r plant yma yn y cartref yn Lviv.
|
Yng Ngorffennaf 2008 ymwelodd Llanelli â Latfia, i herio Ventspils mewn gem yng Nghyngrhair Pencampwyr Ewrop. Ymwelodd rhai o'r swyddogion a chefnogwyr â Chartref Plant Selga, 21 Stryd Perkona, y tu allan i Ventspils.
Croesawyd y grwp gan Gyfarwyddwraig y Cartref, Marita Laipniece, ac unwaith eto cyfranwyd crysau Llanelli i'r cartref. Noson y gêm, roedd Sintija Taurina o Gartref Selga yn westai i Llanelli yn y gêm, lle'r oedd hi ar alw i helpu efo'r gwasanaethau cyfieithu, er mwyn iddi wella ei Saesneg llafar cyn iddi ddechrau mynychu Prifysgol Ventspils i astudio Saesneg.
Diolch i Didzis Stelbaums o Lysgenhadaeth Prydain yn Riga am helpu i drefnu'r ymweliad efo Neil Dymock.
Uchod: Llanelli a Plant Selga.
Uchod: y plant efo'r fferins roddwyd gan feddyg y clwb, Liz Davies.
Uchod: Hugh Roberts a Mike Hurley yn cwrdd â rhai o'r plant yn Latfia.
|
|
|
| Uchod: Clwb Cefnogwyr y Cochion Latfia.
|
Yn Mawrth 2009, bydd plant 3ydd Cartref Plant Vilnius a Cartref Selga Ventspils yn westeion yn y gemau rhwng Cymru v Ffindir a Llanelli v Porthmadog ar y 28ain a 29ain o Fawrth. Bydd Dita Blisina, 8, Baiba Sepe, 13, Kristaps Blisins, 10, a Kaspars Bergs, 16 o Latfia ac Albert Paškevic, 13, Genrik Milevic, 17, Justina Blaževic, 15, a Greta Andrejeva, 14, o Lithiwania, yn ymweld â Chymru i gwrdd â thimau Tosh a Nico.